Lleoliad:
Ystafell Gynhadledd 4B - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Iau, 17 Ionawr 2019
Amser: 09.04 - 15.10
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Bwrdd: |
Y Gwir Anrhydeddus y Fonesig Dawn Primarolo (Cadeirydd) Ronnie Alexander Trevor Reaney Michael Redhouse Y Fonesig Jane Roberts |
Swyddogion: |
Matthew Richards, Pennaeth y Gwasanaeth Cyfreithiol Rebecca Hardwicke, Pennaeth Cymorth Busnes i’r Aelodau Martin Jennings, Y Gwasanaeth Ymchwil Craig Stephenson, Cyfarwyddwr Ymgysylltu |
Ysgrifenyddiaeth: |
Lleu Williams (Clerc) Sian Giddins (Dirprwy Glerc) |
1.1. Croesawodd y Cadeirydd aelodau'r Bwrdd i'r cyfarfod.
1.2. Cytunodd y Bwrdd ar gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 22 Tachwedd 2018.
1.3. Cydymdeimlodd y Bwrdd â theulu, ffrindiau a chydweithwyr Steffan Lewis, y cyn Aelod Cynulliad, yn eu profedigaeth. Diolchodd y Bwrdd i:
- dîm Cymorth Busnes yr Aelodau am y cymorth a’r cyngor y maent yn parhau i'w gynnig i deulu Steffan a’i staff cymorth;
- yr ysgrifenyddiaeth am roi gwybod i’r Bwrdd am y materion sy'n codi.
1.4. Nododd y Bwrdd y darpariaethau ar gyfer dirwyn swyddfa Steffan Lewis i ben.
1.5. Cynhaliodd y Bwrdd ei adolygiad blynyddol o'r holl geisiadau am dreuliau eithriadol yr oedd wedi'u cymeradwyo’n flaenorol ac, o ystyried bod yr Aelodau wedi’u sicrhau nad oedd eu sefyllfa wedi newid ers i’r Bwrdd gymeradwyo’r taliadau ychwanegol gyntaf, cytunodd y dylent barhau i gael y taliadau ychwanegol. Nododd y Bwrdd y bydd nifer a maint y taliadau eithriadol yn 2018-19 yn cael eu cyhoeddi yn ei adroddiad blynyddol.
1.6. Cytunodd y Bwrdd i ysgrifennu at yr holl staff cymorth sy'n gweithio i Aelodau annibynnol y Cynulliad i ofyn iddynt ffurfioli trefniadau ar gyfer ymgysylltu â'r Bwrdd.
Camau i’w cymryd:
Bydd yr ysgrifenyddiaeth yn:
- cyhoeddi nodyn o’r cyfarfod a gynhaliwyd ar 22 Tachwedd;
- rhoi gwybod i’r holl Aelodau sy'n cael treuliau eithriadol am benderfyniad y Bwrdd;
- ysgrifennu at staff cymorth Aelodau annibynnol i ffurfioli trefniadau ar gyfer ymgysylltu â'r Bwrdd.
Adolygiad o'r cymorth staffio i'r Aelodau
2.1 Trafododd y Bwrdd yr ymatebion a ddaeth i law ynghylch ei gynigion i ddiwygio'r trefniadau ariannu i gyflogi aelodau o'r teulu (cynigion un a dau yn yr ymgynghoriad).
2.2. Ar ôl ystyried yr ymatebion ochr yn ochr ag amcanion statudol y Bwrdd, gan wneud hynny’n ofalus ac â meddwl agored, cytunodd y Bwrdd i ddiwygio’i gynigion gwreiddiol mewn perthynas â’r trefniadau ariannu ar gyfer cyflogi aelodau o'r teulu.
2.3. Cytunodd y Bwrdd i ofyn am ragor o gyngor cyn rhoi unrhyw newidiadau ar waith o ran y trefniadau ariannu i gyflogi aelodau o’r teulu.
2.4. Trafododd y Bwrdd yr ymatebion a ddaeth i law mewn perthynas â’i gynigion i ddiwygio telerau ac amodau staff cymorth (cynigion tri, pedwar a phump) a chytunodd i gyflwyno’r newidiadau ganlyn o 1 Ebrill 2019 ymlaen
- addasu cyflogau staff cymorth ym mis Ebrill bob blwyddyn yn ôl y newid yn yr Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion (ASHE)
- cyflwyno diwrnodau braint ar gyfer staff cymorth;
- cyflwyno polisi newydd i ganiatáu i staff cymorth fedru hawlio absenoldeb tosturiol.
2.5 Cytunodd y Bwrdd y dylai'r ysgrifenyddiaeth gydweithio ar ei ran â chynrychiolwyr staff cymorth i sicrhau bod y polisi absenoldeb tosturiol yn addas i'r diben.
Camau i’w cymryd
Bydd yr ysgrifenyddiaeth yn:
- ceisio rhagor o gyngor ynghylch penderfyniad y Bwrdd i gyflwyno’r newidiadau arfaethedig i gynigion un a dau;
- gweithio gyda staff cymorth i ddatblygu'r polisi absenoldeb tosturiol;
- rhoi gwybod i'r Aelodau a'r staff cymorth am y newidiadau arfaethedig unwaith y bydd penderfyniad y Bwrdd yn derfynol;
- paratoi Penderfyniad diwygiedig i'w gyhoeddi ym mis Ebrill 2019.
Adolygiad o'r Gweithdrefnau Disgyblu a Chwyno
2.6 Trafododd y Bwrdd yr ymatebion a ddaeth i law mewn perthynas â chynigion chwech a saith a chytunodd i ddiwygio'r ddwy weithdrefn i sicrhau eu bod yn gyfredol ac yn cyd-fynd â pholisi Urddas a Pharch y Cynulliad.
2.7 Cytunodd y Bwrdd y dylai'r ysgrifenyddiaeth gydweithio â chynrychiolwyr staff cymorth ar ei ran i sicrhau bod y gweithdrefnau'n addas i'r diben.
Camau i’w cymryd
Bydd yr ysgrifenyddiaeth yn:
- gweithio gyda staff cymorth i ddatblygu'r gweithdrefnau;
- rhoi gwybod i'r Aelodau a'r staff cymorth am y newidiadau arfaethedig unwaith y bydd penderfyniad y Bwrdd yn derfynol.
3.1 Trafododd y Bwrdd y darpariaethau yn y penodau hynny yn y Penderfyniad sy’n ymdrin â gwariant ar lety preswyl, costau teithio a chostau swyddfa'r Aelodau. Mae’r rhain yn dod o dan ran un o’i adolygiad.
3.2 Bydd y Bwrdd yn ailystyried y materion a godwyd yn ei gyfarfod nesaf
4.1Fel eitem 3.
Cyflogau staff cymorth
5.1 Cyfeiriodd y Bwrdd at ei benderfyniad cynharach (eitem dau) i addasu cyflogau staff cymorth ym mis Ebrill bob blwyddyn yn ôl y newid yn ôl enillion gros canolrifol yr Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion ar gyfer swyddi cyflogedig amser llawn yng Nghymru. Nododd y Bwrdd y byddai hyn yn sicrhau cysondeb rhwng y modd y caiff cyflogau staff cymorth a’r Aelodau eu mynegeio.
5.2 O 1 Ebrill 2019 ymlaen, bydd cyflogau’r Aelodau a’u staff cymorth yn codi 1.2 y cant.
5.3 Gan y byddai’r newid yn weithredol o 1 Ebrill 2019 ymlaen, cytunodd y Bwrdd i beidio â chynnig unrhyw newidiadau ychwanegol i gyflogau staff cymorth yn 2019-20. Bydd y cyflogau diwygiedig yn rhan o’r Penderfyniad ar gyfer 2019-20.
Lwfans Costau Swyddfa
5.4 Trafododd y Bwrdd y ffactorau amrywiol sy'n effeithio ar gostau swyddfa’r Aelodau.
5.5 Cytunodd y Bwrdd fod y swm y mae’r Aelodau’n ei wario’n dangos bod y lwfans presennol yn ddigonol ac, o ganlyniad, penderfynodd ei adael fel y mae, sef £18,260 a £4,912, yn ystod blwyddyn ariannol 2019-20
Gwariant ar Lety Preswyl
5.6 Trafododd y Bwrdd y ffactorau amrywiol sy'n effeithio ar y swm y mae’r Aelodau’n ei wario ar lety preswyl
5.7 Nododd y Bwrdd nad yw’r lwfans ardal allanol wedi newid ers 2017-18.
5.8 Cytunodd y Bwrdd i ddefnyddio'r Mynegai Prisiau Defnyddwyr ar gyfer mis Medi 2018, sef 2.4 y cant, fel cyfradd i godi'r lwfans ardal allanol ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. Mae hyn yn dilyn yr un egwyddorion ag y mae'r Bwrdd wedi eu defnyddio i godi lwfansau eraill yn y gorffennol. Cytunodd y Bwrdd i gynnig cynnydd o 2.4 y cant yn y lwfans.
5.9 Cytunodd y Bwrdd mai’r uchafswm ar gyfer gwaith trwsio hanfodol fydd £882 y flwyddyn a’r uchafswm ar gyfer costau rhent Aelodau a chanddynt ddibynyddion - dim ond Aelodau y mae eu prif gartref yn yr ardal allanol sy’n cael hawlio’r lwfans hwn.
5.10 Nododd y Bwrdd nad yw’r lwfans ardal ryngol wedi newid ers ei gyflwyno.
5.11 Er mwynadlewyrchu'r angen cynyddol i Aelodau aros dros nos ym Mae Caerdydd ers i'r lwfans ardal ryngol gael ei gyflwyno gyntaf yn 2012, cytunodd y Bwrdd i gynnig cynyddu'r lwfans i £6,840 y flwyddyn.
5.12 Cytunodd y Bwrdd hefyd i gynnig newid geiriad y ddarpariaeth yn unol â hynny i adlewyrchu’r ffaith bod modd defnyddio’r lwfans droeon.
Ymgynghoriad
5.13 Cytunodd y Bwrdd i ymgynghori ynghylch yr holl gynigion uchod. Y dyddiad cau fyddai 12 Mawrth 2019.
5.14 Bydd y Bwrdd yn ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad yn ei gyfarfod ym mis Mawrth
Camau i’w cymryd:
Bydd yr ysgrifenyddiaeth yn:
- paratoi Penderfyniad diwygiedig i adlewyrchu'r newidiadau yng nghyflogau staff cymorth;
- cyhoeddi a hyrwyddo'r ymgynghoriad;
- paratoi crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad i'w hystyried yng nghyfarfod mis Mawrth.
6.1 Nododd y Bwrdd yr adroddiad gan y Pwyllgor Safonau Ymddygiad a chytunodd i ystyried y materion a godwyd fel rhan o'i adolygiad o'r Penderfyniad ar gyfer y Chweched Cynulliad.